Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig): Fees & Entry Requirements at Bangor University, UK

Cerddoriaeth - TAR Uwchradd -(yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

UK

What will I learn?

UCAS Code: 3D3V**TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (gyda SAC)**Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwahaniaeth.Prif nod cwrs TAR Cerddoriaeth yw dirnad sut i ddysgu a chael profiad trwy Gerddoriaeth. Yn un o bynciau Y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae cyfle ymarferol a rhyngweithiol, drwy Gerddoriaeth, i archwilio, ymateb, ac i greu. Yn y darlithoedd bydd cyfle i astudio, trafod, a datblygu dealltwriaeth o sut i greu gweithgareddau deniadol, diddorol sy’n cyfuno Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Drwy ddulliau ymarferol, bydd y cwrs yn ffocysu ar bedagogeg gerddorol a strategaethau addysgu effeithiol a fydd yn arwain at ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd, meddwl beirniadol, hunan werth, hunan hyder a gwydnwch. Dyma gwrs a galwedigaeth sy’n caniatáu ichi fwynhau eich pwnc ac i ysbrydoli cerddorion y dyfodol, beth bynnag eu profiad a’u diddordeb cerddorol. Mae’n llwybr ichi ddatblygu’n broffesiynol, i gydweithio ag eraill yn ogystal â lledaenu eich arbenigedd personol.**Pam astudio gyda ni?**- Bydd tiwtor prifysgol profiadol ac empathetig yn eich arwain ac yn eich cefnogi, gan sicrhau bod gennych y sgilau, yr wybodaeth gyfredol a’r hyder i fod yn addysgwyr effeithiol- Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau leoliad ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)- Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant cerddorol cyfoethog ac amrywiol Cymru yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unol â’r gofyn- Bydd cyfle ichi fwynhau harddwch Eryri a glannau arfordir Gogledd Cymru yn ystod eich astudiaethau ym Mangor. Bydd cyfle o gydweithio gydag adrannau eraill e.e. TAR Uwchradd Awyr AgoredByddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf!Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5W**.

Which department am I in?

School of Education

Study options

Full Time (1 Year)

Tuition fees
Information not available

Please check with institution

Start date

Expected September 2026

Venue

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

*There may be different IELTS requirements depending on your chosen course.

Add to my favourites

About Bangor University

Bangor’s outstanding course-specific facilities and passionate faculty help to ensure all students enjoy a tailored, enriching study programme.

  • Wide range of respected course options
  • Extensive facilities designed to fit each school
  • Impressive support network provided to all students
  • Fantastic scenic location with major cities in easy reach
Get FREE expert advice