Study Daearyddiaeth at Aberystwyth University in the UK, Department of Geography and Earth Sciences
ip target image
You are currently browsing our site with content tailored to students in your country

Daearyddiaeth

UK

1

What will I learn?

Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r adrannau mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni. Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth. **Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:** + Prosesau dalgylch afon + Rhewlifeg Biodaearyddiaeth + Newid Amgylcheddol Cwaternaidd + Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon + Cynaliadwyedd Trefol + Datblygu Rhanbarthol+ Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol + Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill + Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400) + Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu + Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol. Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser. Ymhlith y setiau sgiliau y mae: Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm Sgiliau rheoli amser a threfnu Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth. Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.

Which department am I in?

Department of Geography and Earth Sciences

Study options

Full Time (3 Years)

Tuition fees
£21,875.00 (US$ 28,250) per year
This is a fixed fee
Start date

September 2026

Venue

Main Site (Aberystwyth)

Aberystwyth University, Reception, Penglais,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3FL, Wales, United Kingdom

Full Time (3 Years)

Tuition fees
£23,255.00 (US$ 30,032) per year
This is a fixed fee
Start date

September 2027

Venue

Main Site (Aberystwyth)

Aberystwyth University, Reception, Penglais,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3FL, Wales, United Kingdom

*There may be different IELTS requirements depending on your chosen course.

Add to my favourites

Product of

Have you discovered our IDP community?

Get to hear first-hand experiences from past students, join groups and more with our new community feature!

View community now!
cta banner image

Get in touch