Bydd y cwrs BA (Anrhydedd) Cymraeg ac Addysg yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau yn y Gymraeg ac astudio Llenyddiaeth Gymraeg ymhellach ochr yn ochr ag Addysg. Mae’r cynllun gradd hwn yn gyfuniad perffaith os ydych yn ystyried gyrfa ym myd addysg ynghyd â’r sgiliau cymwysedig a ddatblygir yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Wrth gwblhau’r radd hon yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am Hyfforddiant Athrawon Ôl-raddedig (TAR) Cynradd neu Uwchradd. Yn ogystal, os ydych wedi cyraedd y gofynion mynediad, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael cyfweliad ar gyfer cwrs Hyfforddiant Athrawon Ôl-raddedig (TAR) Cynradd neu Uwchradd yn Aberystwyth. Pam astudio Addysg a'r Gymraeg? Cyfle i astudio modiwlau Addysg craidd a chyfuno elfennau damcaniaethol ac ymarferol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Cael eich dysgu gan bobl broffesiynol yn cynnwys athrawon, a chael darlithoedd hefyd gan brif ymchwilwyr yn y maes hwn. Cyfle i wella eich gallu i gydweithio ag eraill. Dysgu mewn amgylchedd eithriadol â chyfleusterau o’r radd flaenaf. Bydd astudio am radd yn y Gymraeg yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys: - ymchwilio a dadansoddi data - meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon - gweithio’n annibynnol - trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn - mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig - hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth- gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb - sgiliau technoleg gwybodaeth.Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd: Dysgu a Addysg Darlledu Gofal Cymdeithasol Nyrsio Therapi lleferydd Marchnata a Chyfathrebu Llywodraeth Leol.
Which department am I in?
Department of Welsh and Celtic Studies
Study options
Full Time
(3 Years)
Tuition fees
£20,400.00 (US$ 26,345)
per year
This is a fixed fee
Start date
September 2027
Venue
Main Site (Aberystwyth)
Aberystwyth University, Reception, Penglais,
Penglais Road,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3FL, Wales, United Kingdom
*There may be different IELTS requirements depending on your chosen course.