Study Y Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol - BA (Hons) at University of Wales Trinity Saint David in the UK, Humanities and Social Sciences

Y Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol - BA (Hons)

UK

What will I learn?

Mae ein rhaglen BA Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol yn cynnig cyfle unigryw i astudio’n ymarferol a datblygu eich sgiliau creadigol drwy ddefnyddio cyfryngau digidol, cyfathrebu a chelfyddydau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma radd unigryw yng ngorllewin Cymru fydd yn rhoi profiadau perthnasol i’r diwydiant gyda mewnbwn ymarferwyr y sector.Fe fyddwch yn dilyn modylau sydd wedi hyfforddi rhwydwaith enfawr o gyn-fyfyrwyr yn llwyddiannus, yn actorion a chynhyrchwyr. Mae’r modylau hyn bellach wedi cael eu diweddaru i gynnwys asesiadau arloesol newydd fel creu podlediadau a sgiliau actio cymhwysol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd y mae ymarferwyr y diwydiant yn eu hwynebu yn yr oes sydd ohoni.Mae’r cwrs yn cyfuno sgiliau cynhyrchu cyfoes, creu cynnwys a gwybodaeth am actio a thechnegau perfformio, gydag astudiaethau cyfathrebu fydd yn ymestyn eich cyfleoedd i brofi a datblygu sgiliau rhyngddisgyblaethol. Trwy heriau creadigol, bydd y radd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa amrywiol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Fe fyddwch yn dysgu sut i ddefnyddio ystod eang o sgiliau, o ysgrifennu a chyhoeddi ar gyfer y we i berfformio byrfyfyr, o ddylunio a chynhyrchu cynnwys digidol i gynyrchiadau theatr prif lwyfan, ac o adrodd straeon digidol i recordio llais a chynhyrchu sain.Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu’n benodol gyda mewnbwn gan raddedigion, gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid ar draws y diwydiannau creadigol o’r cychwyn cyntaf. Golyga hyn y bydd ein myfyrwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth sy’n ffocysu ar y diwydiant ac yn cysylltu ag ymarferwyr trwy gydol y radd, gan eu helpu i ddod yn barod i weithio erbyn iddynt raddio. Gyda phrofiadau ar leoliadau proffesiynol wedi’u hymgorffori i’ch gradd fe fyddwch yn barod i fwrw ati’n syth ym maes y cyfryngau, theatr a chyfathrebu proffesiynol.Wrth ddatblygu ein harlwy cyfrwng Cymraeg ym maes Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol ar gampws Caerfyrddin, rydym yn gweithio gyda nifer o dentantiaid sy’n gysylltiedig â’r diwydiant sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin, megis Telesgop, Carlam, Captain Jac, Theatr Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, gallwn fanteisio ar y cyfoeth o gwmnïau cyfryngau sydd ledled gorllewin Cymru.

Which department am I in?

Humanities and Social Sciences

Study options

Full Time (3 Years)

Tuition fees
£15,600.00 (US$ 20,146) Overall
This is a fixed fee
Start date

September 2027

Venue

Carmarthen Campus

College Road,

Carmarthen,

Carmarthenshire,

SA31 3EP, Wales, United Kingdom

*There may be different IELTS requirements depending on your chosen course.

Add to my favourites

Product of

Have you discovered our IDP community?

Get to hear first-hand experiences from past students, join groups and more with our new community feature!

View community now!
cta banner image

Get in touch